Defnyddio ffilm mewn addysg
Ar Fehefin y 28ain, bydd Film: 21st Century Literacy ac Asiantaeth Ffilm Cymru yn cynnal seminar am ddim yn Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd i ystyried y ffordd ymlaen i addysg ffilm yng Nghymru. Fel rhan o’r digwyddiad bydd Addysg Cyfryngau Cymru yn cyflwyno enghreifftiau o sut mae addysg ffilm yn gallu cefnogi sgiliau sylfaenol. I gael mwy o wybodaeth, a manylion am sut i ymgeisio, iswythwch y
daflen.
Editsense
Mae’n adnodd golygu wedi cael adolygiad da iawn gan Jack Kenny ar safle Agent for Change. Rydym nawr yn cynnigarchebu ar-lein a phris gostyngedig i fyfyrwyr o £20.
Gwyl y Gelli
Roeddwn ni yn y Gelli eto eleni. Fe wnaeth ni weithio gyda’r bardd Francesca Kay i helpu Sgwad Sgwennu Powys i greu cerddi ffilm, gyda chymorth Academi.
Hyfforddiant addysg ffilm i’r sector anffurfiol
Rydym wedi cwblhau astudiaeth ymarferoldeb i hyfforddiant addysg ffilm i’r sector anffurfiol ar gyfer Asiantaeth Ffilm Cymru. Gallwch islwytho’r adroddiad o safle’r Asiantaeth Ffilm.
Rydym wedi ennill tendr gan AFfC i weithredu rhai o’r argymhellion: byddwn ni’n datblygu hyfforddiant achrededig i weithwyr ieuenctid, cynnal digwyddiadu hyfforddiant i ymarferyddion ffilm yn Aberystwyth a Chaernarfon, a threfn cynhadledd undydd yng Nghaerdydd yng Ngwanwyn 2011.
Sesiynau’r Pierhead
Fe wnaeth Tom Barrance gynnal sesiwn ar Ffilm a Dinasyddiaeth Byd-eang yn ystod Sesiynau’r Pierhead ym mis Mawrth, yn defnyddio ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm o’r wledydd sy’n datblygu, gyda ffocws ar Affrica.
Zoom
Fe wnaeth Tom Barrance arwain sesiwn ymarferol ar ffilm, sain a montage fel rhan o Wyl Zoom Cymru 2010, a ddangoswyd ar rhaglen gylchgrawn Wei 7 S4C.
Gweithdai Ffilm a Sain
Fel rhan o wyl Soundtrack ym mis Tachwedd, cyflwynodd Tom Barrance sesiwn ar Ffilm a Sain yn Cineworld, Caerdydd. Am y tro cyntaf, defnyddiodd y Rhwydwaith Sgrîn Digidol i gysylltu y sesiwn trwy loeren i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth a’r Scala Prestatyn, gyda chynulleidfaoedd yn y lleoliadau pell yn ymateb trwy Skype. Fe wnaeth Tom hefyd gynnal gweithdai ymarferol ffilm a sain ym Mae Caerdydd.


