CYFRYNGAU A FFILM 2010

16-17 Medi

Ty Dysgu, Nantgarw, ger Cardiff

MAE LLEFYDD AR GAEL O HYD

“Syniadau ysbrydol”
“Cwrs ardderchog”
“Llawer o gyngor ymarferol a defnyddiol”

• Yr unig gynhadledd HMS sydd yn benodol ar gyfer TGAU a Safon Uwch CBAC
• Gyda Phrif Arholwyr ac Arweinyddion Tîm Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm
• Sesiynau ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol
• Prisiau yn aros ar lefelau 2008

Bydd y cwrs poblogaidd hwn – sydd nawr yn ei 24ain blwyddwn – yn cynnwys ystod eang o sesiynau yn ymdrîn â thestunau cyfredol a rhai sydd ar ddod, trafod gwaith cwrs, gwaith ymarferol a damcaniaeth. Bydd rhai o’r sesiynau allweddol yn cael eu hail-adrodd.

Mae Ty Dysgu yn hawdd i’w cyrraedd o’r M4, a tua 40 munud o ganol Caerdydd ar y bws. Bydd bws mini gwennol rhwng Gwesty’r Village a lleoliad y cwrs ar nos Iau a bore dydd Gwener.

Nid yw’r cwrs yn un preswyl. Mae’r mwyafrif sy’n aros dros nos yn defnyddio Gwesty’r Village. Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael nos Fercher a nos Iau am bris arbenning o £85 (un person) a £95 (dau berson yn rhannu ystafell). Er mwyn cael y prisiau hyn, bydd rhaid i chi nodi lle cyn yr 18fed o Awst (rhif ffôn 029 2052 4300) trwy ddefnyddio’r rhif MEDI150910 a thalu blaendal o £25. Gallwch chwilio am westai eraill yng Nghaerdydd ar VisitCardiff.

Ffi
• £250 am ddau ddiwrnod
• £135 am un diwrnod

I nodi lle, islwythwch y ffurflen gais yma http://www.mediaedwales.org.uk/CFF10.pdf a’i dychwelyd atom. Gallwch danfon siec gyda’r ffurflen, neu gallem ddanfon infois atoch. (Os ydy’ch sefydliad yn defnyddio archebion swyddogol, darparwch un gyda’r gais, os gwelwch yn dda).

Byddwn ni’n cydnabod eich cais a danfon mwy o wybodaeth atoch yn ystod yr Haf.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 029 2056 9467 neu ddanfonwch e-bost i cff10@mediaedwales.org.uk

RHAGLEN
CYNNWYS

Hawlfraint © 2010 Media Education Wales. Icons gan Wefunction. Dylunio gan Woo Themes