| Ffôn: 029 2056 9467 ymholiadau@mediaedwales.org.uk |
|||||||
|
|||||||
| Rydych chi yma : Cartref / Diweddara / Adroddiadau ar brojectau / Dal:Yma/Nawr | |||||||
|
Dal:Yma/Nawr |
|||||||
|
Cynhaliwyd y projectau 2 awr hyn ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 Cynradd gyda chefnogaeth Sgrîn a mewn partneriaeth â Chapter. Fe’u seiliwyd ar ffilm Marc Evans Dal:Yma/Mawr ar ddwy fil o flynyddoedd o ‘r traddodiad barddol Cymraeg. Rhoddwyd trac sain i’r plant: cerdd Traeth y Pigyn T Llew Jones, yng Nghymraeg neu mewn cyfieithiad Saesneg. Roedd gennym 30 clip o’r ffilm, a’u tasg oedd i olygu y clipiau i ddarlunio’r gerdd. Defynyddiodd y plant ‘Bookmarks’ iMovie i farcio dechrau pob llinell. Wedyn, dewiswyd pa ddelweddau ddylai fynd gyda phob llinell o’r gerdd. Llusgwyd y clipiau i’r llinell amser, wedyn llusgwyd ffin pob clip i ffitio’r ‘Bookmark’ priodol. Wedyn, ychwanegwyd teitlau a chredydau. Fe aeth y gweithdai yn dda iawn. Synodd yr athrawon i weld ansawdd yr iaith, trafodaeth pwrpasol, a chydweithio a ddangoswyd gan y plant. Gallech ffitio fersiwn o’r gweithdy mewn i wers ddwbl 80-90 munud. Cynhaliwyd y gweithdy hwn yn Aberystwyth, Pontardawe a Chaerdydd yn Hydref 2004 a Gwanwyn 2005 yn Gymraeg ac yn Saesneg. |
|||||||||||||||
| Wefan addysg y cyfryngau a delweddau symudol y DU | |||||||