|

Y Cyfryngau a Ffilm 09
Roedd ein digwyddiad blynyddol HMS ar gyfer athrawon Astudio'r Cyfryngau ac Astudio Ffilm yr un mwyaf, a mwyaf llwyddianus eto. Daeth dros 120 o athrawon o ysgolion a cholegau ledled y DU a thu hwnt. Cynhelir Y Cyfryngau a Ffilm 2010 ar Fedi'r 16eg a 17eg.
Blog
Mae enghreifftiau o’n gwaith project ar blog – ond os ydy’ch ysgol yn gwahardd Blogger neu YouTube bydd angen i chi ei wylio gartef. Yn fuan byddwn ni’n cynnwys enghreifftiau yn ar y safle hwn.
Ffilmschool 2
Rydym newydd cwblhau’r gweithgareddau ystafell ddosbarth yn ein project ar ffilm di-naratif, barddoniaeth a cherddoriaeth yn Llansawel. Mae’r project hwn, gyda Blwyddyn 6 a 7, wedi cynhyrchu gwaith diddorol iawn ac wedi helpu ni i ddatblygu ffyrdd newydd o wneud ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth. Diolch i Asiantaeth Ffilm Cymru, Cyngor y Celfyddydau, a CBS Castell-nedd Port Talbot am eu cefnogaeth. Bydd adroddiad project byr ar y safle hwn yn fuan, ac rydym yn gobeithio cynhyrchu adroddiad a gwerthusiad llawer mwy manwl ar-lein yn y dyfodol agos.
Cyfryngau a Ffilm 08
Bydd ein HMS deuddydd blynyddol yn ehangu eleni i gynnwys Astudio Ffilm CBAC TGAU a Safon Uwch. Mae gyda ni llawer o sesiynau diddorol mewn golwg, yn cynnwys sesiynau i ddechreuwyr, sut i ddysgu topigau a meysydd llafur cyfoes a newydd, gwaith cwrs ymarferol, (yn cynnwys dylunio i’r We, ffotgraffiaeth digidol a fideo), a sesiwn gwestai ar hysbysebu gan Dr John Jewell o Brifysgol Caerdydd. Bydd derbyniad gwîn a lawnsiad llyfr ar bynhawn Iau, ac rydym yn trefnu bws mini rhwng y gwesty a lleoliad y cwrs. Gallwch islwytho ffurflen yma.
CP3
Fe wnaeth Tom Barrance ddarparu weithdai ar ddefnyddio iMovie, ac ar ddelweddau, sain a montage, yn ystod cynhadledd HMS CP3 2008 Film Education ym Mhrifysgol Sussex ym mis Gorffennaf.
Apple Teacher Institute
Ym mis Ebrill darparodd Tom gyflwyniad i iaith ffilmiau, a gweithdai ar Final Cut Express, fel rhan o Seflydiad Athrawon Apple yng Ngoleg Cheltenham.
Digwyddiadau rhyngwladol
Darparodd Tom Barrance gyfres o weithdai fideo digidol fel rhan o gynhadledd hyfforddi TGCh ar gyfer ysgolion rhyngwladol ym Mrwsel ym mis Mehefin. Fe wnaeth ef gyflwyno gwaith Ffilmschool 1 a 2 mewn seminar Ewropeaidd ar Gynhyrychiad cyfryngau gan pobl ifanc a llythrennedd y cyfryngau ym Mharis ar ddiwedd Mehefin.
Campws Cyntaf
Yn ystod mis Mai a mis Ebrill fe wnaethon ni gynnal cyfres o weithdai undydd mewn ysgolion cynradd yng nghymoedd Gwent ar gyfer Campws Cyntaf. Fe wnaethon ni hefyd gynnal gweithdy undydd ar gyfer pobl ifanc byddar ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd.

Animeiddio ar gyfer Astudio’r Cyfryngau TGAU
Rydym nawr wedi cynnal dau cwrs llwyddiannus ar animeiddio gyda Oscar Stringer (http://www.oscarstringer.co.uk/) yn Nhreforys, gyda chefnogaeth CBAC.

MediaEd
Rydym newydd ail-ddylunio safle MediaEd, gyda fforymau mwy, mwy o ryngweithrwydd, a newid ffocws i bwysleisio’r defnydd mwy eang o’r cyfryngau, ffilm a gwneud-ffilmiau mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
Media 21
Fe wnaeth 85 athro Astudio’r Cyfryngau fynychu ein HMS blynyddol ym mis Medi. Yn dilyn llwyddiant y cwrs hwn, eleni rydym yn ehangu’r cwrs i gynnwys Astudio Ffilmiau TGAU a Safon Uwch. Bydd Y Cyfryngau a Ffilm 08 ar 2 a 3 Tachwedd, unwaith eto yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw, i’r gogledd o Gaerdydd.
Making movies make sense
Gallwch nawr archebu ein CD-ROM ar-lein trwy ddefnyddio Paypal, cerdyn credyd neu gerdyn debit. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Barddoniaeth a Ffilmiau
Daeth pymtheg bardd o Gymru a Lloegr at ei gilydd ar ddiwedd mis Ebrill am benwythnos yn archwilio’r perthynas rhwng barddoniaeth a ffilm. montage a throsiad. Fe wnaeth Tom Barrance o Addysg y Cyfryngau Cymru, Mark Reid o Adran Addysg y BFI, ac Ynyr Williams o Ffilmiau Salem gefnogi’r beirdd wrth iddyn nhw weithio mewn grwpiau ar gerddi ffilm dwyieithog. Mae lluniau o’r penwythnos yma. Rydym yn bwriadau cynnal gweithdai ffilm a barddoniaeth i blant.
Making movies make sense
Derbyniwyd ein CD-ROM ar iaith ffilmiau gymeradwyaeth uchel yng nghategori Caledwedd, Meddalwedd, Cynnwys ac Offer ar gyfer Dysgu a Sgiliau yng Ngwobrau BETT 2006. Fe dderbyniwyd i'r rhestr fer yng nghategori Saesneg: Cyfnodau Allweddol 3 a 4 hefyd.
Cymdeithas Athrawon y Cyfryngau
Mae cymdeithas broffesiynol ar gyfer athrawon y cyfryngau wedi ei sefydlu (cyswyllt uchod).
Byddwn ni'n trefnu cyfarfod yng Nhgaerdydd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Deall ffilmiau, gwneud ffilmiau
Mae'n CD-ROM newydd Cymraeg ar iaith ffilmiau ar gael nawr. I gael mwy o wybodaeth clickiwch ar y linc uchod.
Offer fideo ar gyfer Astudio'r Cyfryngau
Rydym newydd diweddaru ein rhestr offer, a gyhoeddwyd gyda chefnogaeth CBAC, Mae'n ddogfen PDF y gallwch ei islwytho am ddim, sy'n cynwys rhestr o'r offer ffilmio a golygu fydd eu hangen arnoch, gyda awgrymiadau a phrisiau.
|