This page in english
Yn ôl i'r tudalen indecs   Newyddion, manylion a digwyddiadau diweddarafCyhoeddiadau a ffynonellau gwybodaethYr hyn rydym yn ei gwneud, a'r hyn sydd gennym i'w cynnigCyngor, cefnogaeth ac ymchwil
       

Newyddion


 
Eitemau hyn
Calendr
Adroddiadau ar brojectau
 
 
 
 
 
 
 

Project Ffilm a Sain Duffryn
Bydd ein project Ffilm a Sain yn Ysgol Uwchradd Duffryn, Casnewydd yn dechrau ym mis Tachwedd. Bydd y project hwn, a gyllidwyd gan Asiantaeth Ffilm Cymru a Campws Cyntaf PCC, yn darparu gweithgareddau ffilm a gwneud-ffilmiau i Blwyddyn 7, Blwyddyn 10 a grwp cwricwlwm amgen Blwyddyn 11.

Gweithdai Ffilm a Sain yng Nghaerdydd
Fel rhan o wyl Soundtrack, bydd Tom Barrance yn cyflwyno sesiwn ar Ffilm a Sain ar Dachwedd y 20ain. Am y tro cyntaf, bydd y Rhwydwaith Sgrîn Digidol yn cael ei ddefnyddio i gysylltu sesiynau yn Cineworld Caerdydd, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, a Scala Prestatyn trwy ddolen loeren. Anelir y sesiwn at fyfyrwyr Astudio’r Cyfryngau TGAU a Uwch Atodol, a Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Cynhrychu Cyfryngau. Mae’n rhad ac am ddim ond mae rhaid bwco ymlaen llaw: mae’r daflen a ffurflen gais yma.

Cynhadledd Llythrennedd Cyfryngau Ewrop
Fe wnaeth Tom Barrance gyflwyno ein adnoddau newydd Editsense a Filmsense yn ystod Cynhadledd Llythrennedd Cyfryngau Ewrop yn Bellaria, yr Eidal. Hefyd, fe wnaeth ef ddangos ffilm gerddoriaeth o Ganolfan Ieuenctid Waterhall, Caerdydd a ffilm barddoniaeth o Ysgol Glantaf fel rhan o sesiwn ar addysg ffilm.

Adnoddau newydd i gefnogi gwneud-ffilmiau
Mae Editsense – ein adnodd newydd ar gyfer dysgu iaith ffilm a golygu – ar gael nawr. Mae’r DVD-ROM yn cynnwys pedair ffilm i fyfyrwyr eu golygu trwy ddefnyddio iMovie neu Final Cut. (Bydd fersiwn PC, ar gyfer Premiere Pro ac Elements, ar gael flwyddyn nesaf.) Gallwch islwytho’r daflen/ffurflen gais yma. Mae’r prisiau yn dechrau o £40 am fersiwn un-defnyddiwr.
Cyflwyniad Flash i addysg ffilm yw Filmsense. Mae’n rhan o DVD-ROM Editsense, ond bydd fersiwn Mac a PC ar gael yn fuan i’w prynu trwy islwytho hefyd.

Adroddiad Ffilmschool 2
Mae adroddiad ar ein project Ffilmschool 2 ar-lein nawr. Comisiynwyd yr adroddiad gan Asiantaeth Ffilm Cymru, a wnaethpwyd yr ymchwil gan Dr Aparna Sharma o Brifysgol Morgannwg. Mae'n tanlinellu gwerth defnyddio ffilm heb-naratif gyda Blwyddyn 6 a 7, a sut wnaeth y project ffilm, cerddoriaeth a barddoniaeth hwn ddatblygu sgiliau sylfaen.

Y Cyfryngau a Ffilm 09
Roedd ein digwyddiad blynyddol HMS ar gyfer athrawon Astudio'r Cyfryngau ac Astudio Ffilm yr un mwyaf, a mwyaf llwyddianus eto. Daeth dros 120 o athrawon o ysgolion a cholegau ledled y DU a thu hwnt. Cynhelir Y Cyfryngau a Ffilm 2010 ar Fedi'r 16eg a 17eg.


Blog
Mae enghreifftiau o’n gwaith project ar blog – ond os ydy’ch ysgol yn gwahardd Blogger neu YouTube bydd angen i chi ei wylio gartef. Yn fuan byddwn ni’n cynnwys enghreifftiau yn ar y safle hwn.

Eitemau hyn


  Adnoddau, dyddiadau, cysylltau a fforwm trafodaeth ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb mewn addysg y cyfryngau a delweddau symudol mewn ysgolion, addysg bellach, addysg ffurfiol ac addysg i oedolion   Wefan addysg y cyfryngau a delweddau symudol y DU   Tudalennau enghreifftiol, manylion am y cynnwys, a sut i'w archebu