|
Gyda fideo digidol, mae’n hawdd i wneud ffilmiau: tu fewn neu tu allan o’r ysgol, o oedrannau 8 i 80. Gallem ddod â’n offer hawdd-i’w-defnyddio (Apple Mac), neu ddefnyddio eich offer chi (Mac neu PC).
Gweithdai golygu
Bydd hyd at 30 o fyfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau am hanner diwrnod i wneud ffilm fer, trwy ddefnyddio clipiau a ddarperir gennym.

Creu ffilm mewn diwrnod
Gyda’r gweithdy hwn, mae’r myfyrwyr yn dilyn proses gwneud-ffilm gyfan, o gynllunio a chreu storifyrddau i ffilmio a golygu.

Storïau digidol
Mae plant neu oedolion yn creu stori bersonol fer wedi ei seilio ar sgript, ffotograffau a/neu ddelweddau symudol.
Projectau
Rydym yn gallu eich helpu i sefydlu project gwneud-ffilmiau, o gyngor ar offer i gymorth gyda chynllunio a threfnu project, hyfforddiant a chefnogaeth.
Gwneud ffilmiau yn y cwricwlwm
Gallem eich helpu i sefydlu project neu weithdy fideo digidol mewn Saesneg, Cymraeg, Hanes, ITM (Ffrangeg neu Almaeneg), Daearyddiaeth, ABCh...
Hyfforddiant
Bydd ein hyfforddiant yn dangos i chi sut i gynllunio a threfnu projectau gwneud-ffilmiau llwyddianus. Rydym yn ystyried sut i gyflwyno iaith ffilm, trefnu’r project, cynllunio, creu storifyrddau, ffilmio a golygu.
Meddalwedd
Gallem ddarparu hyfforddiant ar y mwyafrif o feddalwedd golygu fideo poblogaidd, Mac neu PC.
|