|
3 Mawrth 2009, Ty Dysgu, Nantgarw, ger Caerdydd
9.30-3.30
Ffi: £140
Mae’re Gorchmynion Cwricwlwm Cenedlaethol Saesneg newydd yn rhoi pwyslais mwy ar wylio a thrafod testunau’r cyfryngau a delweddau symudol. Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno ystod o ffyrdd i fynd ati, a dreialwyd ac a brofwyd, wrth ystyried ffilmiau a thestunau delwedd-symudol eraill yn yr ystafell ddosbarth Saesneg Uwchradd.
Byddwn yn ystyried ystod o wahanol enghreifftiau o destunau delwedd-symudol, yn cynnwys hysbysebion teledu, addasiadau o glasuron, rhaglenni dogfen, a ffilmiau byrion cyfan.
Bydd deunydd y cwrs yn cynnwys crynodeb o dechnegau dysgu, geirfa, a chopi o CD-ROM Addysg y Cyfryngau Cymru Making movies make sense: understanding and using film language (pris arferol £33).
Cynnwys
- Elfennau iaith ffilmiau: camera, sain a golygu
- Technegau ar gyfer dysgu iaith ffilmiau, naratif, cynulleidfa a thechnegau argyhoeddi
- Termau addas y gall myfyrwyr eu defnyddio wrth ddadansoddi delweddau symudol
- Ble i ddod o hyd i destunau delwedd-symudol addas
Canlyniadau
Bydd y rhai sy’n mynychu yn datblygu hyder mewn
- cyflwyno a datblygu’r trafodaeth a’r dadansoddiad o destunau delwedd-symudol yn yr ystafell ddosbarth
- defnyddio geirfa addas ar gyfer trafod delweddau symudol
- dod o hyd i destunau delwedd-symudol ar gyfer eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
Arweinydd y cwrs
Mae Tom Barrance wedi darparu gweithdai, projectau a hyfforddiant ar ddadansoddi a chynhyrchu delweddau symudol yn yr ystafell ddosbarth ledled Cymru a tu hwnt. Fe ysgrifennodd y CD-ROM Making movies make sense: understanding and using film language (a dderbyniodd cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau BETT 2006).
Islwythir ffurflen gais mewn fformat PDF
Gallwn hefyd gynnig y cyrsiau hyn yn eich ysgol neu glwstwr – cysylltwch â ni trwy ffôn neu e-bost os ydych am drafod hyn.
|