|
27 Chwefror 2009, Canolfan Celfyddydau Pontardawe
9 Mawrth 2009, Ty Dysgu, Nantgarw, ger Caerdydd
9.30-3.30
Ffi: £120
Bydd yr HMS undydd hwn yn dangos sut y gallwch integreiddio gwylio, trafod a chreu ffilmiau mewn gwaith dosbarth i ddatblygu sgiliau mewn darllen, ysgrifennu a llafar. Byddwn yn canolbwynio ar dullau ymarferol, hygyrch a dreialwyd ac a brofwyd mewn ysgolion ar draws Cymru. Bydd y cwrs yn rhyngweithiol: bydd cyfleoedd i chi profi’r gweithgareddau eich hunain.
Cynnwys
- Cyflwyno iaith ffilmiau: gweithgareddau i ddatblygu dealltwriaeth plant o gamera, sain a golygu a sut mae’r rhain yn eu helpu i deall naratif, cymeriad a genre
- Defnyddio delweddau symudol i ysgogi trafodaeth, rhagdybio, a gwahanol mathau o ysgrifennu
- Enghreiffitau o waith project sy’n defnyddio gwneud ffilmiau i gefnogi ysgrifennu creadigol
- Gweithgareddau gwneud-ffilmiau a sut i’w cynllunio i ddarparu cymaint o gyfleoedd dysgu â phosib
- Ble i ddod o hyd i ffilmiau addas ac adnoddau eraill i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
- Sut mae gweithgareddau gwylio a gwneud ffilmiau yn cyd-fynd â’r Fframwaith Sgiliau.
Canlyniadau
Byddwch chi’n datblygu
- hyder mewn defnyddio gwylio, trafod a gwneud ffilmiau i hybu llythrennedd, siarad a gwrando
- ymwybyddiaeth o sut y gall delweddau symudol ddarparu cyfleodd i ddatblygu sgiliau
- gwybodaeth o adnoddau sydd ar gael ar DVD ac ar-lein.
Adnoddau
Bydd deunydd y cwrs yn cynnyws
- crynodeb o dechnegau dysgu am ffilmiau
- geirfa o dermau addas i drafod ffilmiau
- manylion am weithgareddau gwneud-ffilmiau, o weithgareddau dechreuol syml i brojectau hwy
- crynodeb o’r perthynas rhwng delweddau symudol a’r Fframwaith Sgiliau
- rhestr o adnoddau sydd ar gael ar DVD ac ar lein.
Tom Barrance, Cyfarwyddwr Addysg y Cyfryngau Cymru, yw arweinydd y cwrs. Mae ef wedi darparu gweithdai, HMS a phrojectau ar ddelweddau symudol ledled y DU a thu hwnt. Mae ef newydd cwblhau project pontio blwyddyn o hyd yn cysylltu gwneud-ffilmiau, barddoniaeth a cherddoriaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Islwythir ffurflen gais mewn fformat PDF
Gallwn hefyd gynnig y cyrsiau hyn yn eich ysgol neu glwstwr – cysylltwch â ni trwy ffôn neu e-bost os ydych am drafod hyn.
|