| Ffôn: 029 2056 9467 ymholiadau@mediaedwales.org.uk |
|||||||
|
|||||||
| Rydych chi yma : Cartref / Gweithgareddau / Hyfforddiant /Delweddau symudol yn Saesneg, CA3/4 | |||||||
|
Delweddau symudol yn Saesneg, CA3/4 |
|||||||
|
Mewn addasiadau o glasuron, beth mae gwneuthurwr ffilm yn defnyddio yn lle paragraff agoriadol? Mewn rhaglen ddogfen, sut rydym yn gwybod ym mha gyfwelai y dylsem ymddyried, a sut i ddehongli deunydd sy’n ymddangos yn niwtral? Sut gall hysbyseb deledu adrodd stori gyfan, ac apelio at ein hemosiynau, mewn 60 eiliad? Mewn drama deledu, sut ydyn ni’n gwybod pryd mae cymeriad yn grac, yn anhapus neu’n ofnus? Sut mae dilyniant teitl yn ein helpu i wybod beth yw testun rhaglen, ac os mai atom ni yr anelir hi? Bwriad y cwrs undydd hwn yw dangos i athrawon Saesneg Uwchradd sut i ddehongli iaith ffilm a sut i’w dysgu. Byddwn yn defnyddio darnau byr o ddeunydd delwedd-symudol i archwilio rôl camera, fframio, goleuo, sain a golygu mewn rhaglenni dogfen, hysbysebu, drama deledu boblogaidd ac addasiadau o glasuron. Byddwn yn cyflwyno nifer o dechnegau ymarferol i helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth glir o iaith ffilm a’i chysylltu â genre, cynulleidfa, naratif a thechnegau perswâd. Bydd y nodiadau yn cynnwys crynodeb o’r technegau a geirfa sy’n cylwyno terminoleg addas. |
||||||||||||||
| Wefan addysg y cyfryngau a delweddau symudol y DU | |||||||