Rydym yn cynhyrchu adnoddau sydd wedi derbyn canmoliaeth, i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddysgu am iaith ffilmiau a gwneud-ffilmiau.
Newydd: trwyddedau aml-ddefnyddiwr sy’n symlach, gyda mwy o ddefnyddwyr am yr un arian, ar gyfer Editsense, Filmsense a ffilm ‘The Beach’.

DEALL FFILMIAU GWNEUD FFILMIAU
Mae’r CD-ROM unigryw hwn (Mac/PC) yn cynnig i blant a phobl ifanc y wybodaeth a’r eirfa sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu dadansoddi a thrafod ffilmiau. Mae’n egluro hefyd sut i fynd ati i wneud ffilm. Fersiwn Cymraeg o Making Movies Make Sense (gweler isod), a dderbyniodd cymeradwyaeth uchel mewn gwobrau BETT, yw hwn.
THE BEACH FOR IMOVIE 09
Ffilm y gallwch chi ei golygu, o’n DVD Editsense, sydd nawr ar gael i’w prynu trwy islwytho, ar gyfer iMovie 09 yn unig. Yn cynnwys adnodd ychwanegol ar olygu gyda iMovie. Dim ond £9.99 ar gyfer un defnyddiwr.
Mae’r nodiadau yn Saesneg, ond does dim deialog felly gallwch chi ddefnyddio’r ffilm mewn cyd-destun Cymraeg.

MAKING MOVIES MAKE SENSE
Mae’r cyflwyniad hwn i iaith ffilm a gwneud ffilmiau yn gweithio mewn porwr Gwe, ac mae ar gael ar CD-ROM neu i’w islwytho.


EDITSENSE
DVD-ROM o ffilmiau sydd heb eu golygu, y gallwch ddefnyddio gydag unrhyw feddalwedd fideo. Mae’r DVD-ROM yn Saesneg, ond does dim deialog felly gallwch chi ddefnyddio’r ffilmiau mewn cyd-destun Cymraeg.
FILMSENSE
Mae’r cyflwyniad rhyngweithiol hyn yn gynwysiedig ar DVD-ROM Editsense, ond gallwch chi hefyd ei brynu ar wahan.



