Deall ffilmiau…

deall ffilmiau gwneud ffilmiau

Mae’r CD-ROM unigryw hwn (Mac/PC) yn cynnig i blant a phobl ifanc y wybodaeth a’r eirfa sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu dadansoddi a thrafod ffilmiau. Mae’n egluro hefyd sut i fynd ati i wneud ffilm. Fersiwn Cymraeg o Making Movies Make Sense, a dderbyniodd cymeradwyaeth uchel mewn gwobrau BETT, yw hwn.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgu ‘trafod ffilmiau’ mewn Llenyddiaeth Gymraeg TGAU, Cymraeg UG a Chymraeg Ail Iaith UG.

Gellir ei ddefnyddio gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Mae esboniadau clir – gyda chlipiau fideo, clipiau sain a lluniau llonydd – yn dangos sut mae’r camera, y goleuo, lliw, sain a golygu yn effeithio ar ystyr delweddau symudol.

Mae tudalennau ‘sut-i’, awgrymiadau technegol a gwybodaeth ynglŷn â chynllunio yn helpu gyda gwaith gwneud ffilmiau.

Mae hefyd yn cynnwys adnoddau printiadwy, gweithgareddau ymarferol a chyswllt Gwe.

Tudalennau enghreifftiol
Pob tudalen yn yr adran Camera: yma
Lluniau bychain o bob tudalen yn y CD-ROM.

Archebu
Clicwch yma i gael prisiau a manylion ar sut i’w prynu.

Hawlfraint © 2013 Media Education Wales. Icons gan Wefunction. Dylunio gan Woo Themes

UA-12523825-2