Hyfforddiant ar gyfer ymarferyddion ffilm

Dydd Sadwrn, 2 Hydref 2010, Galeri, Caernarfon
10am-5pm

Yn rhad ac am ddim. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Cynhelir y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r diwrnod hyffordiant hwn ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ac ymarferyddion eraill gyda phrofiad o ddiwydiannau’r cyfryngau sydd eisiau datblygu gweithgareddau addysg ffilm gyda phlant a phobl ifanc.

Bydd yn cynnwys:
• Egwyddorion addysg ffilm
• Beth sy’n gweithio gyda phobl ifanc
• Enghreifftiau o brojectau gwneud-ffilmau
• Technegau cyflwyno iaith ffilmiau
• Defnyddio ‘ffilmiau diwylliannol’: ffilmiau addas, ble i’w ffeindio a sut i’w defnyddio
• Cyllid ar gyfer projectau addysg ffilm
• Sylfeini amddiffyn plant
• Rhannu syniadau a dullau o weithio

Arweinir y gweithdy gan Tom Barrance, Cyfarwyddwr Addysg Cyfryngau Cymru. Mae gan Tom brofiad eang o weithgareddau addysg ffilm ac mae ef wedi ysgrifennu adnoddau i gefnogi gwneud-ffilmiau gan pobl ifanc.

Mae’r cwrs am ddim, a gallwn gyfrannu at gostau teithio. Dim ond 10 lle sydd ar gael.

Rhan o ‘Adeiladu Cynulleidfaoedd’, project Asiantaeth Ffilm Cymru a gyllidir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I ymgeisio, danfonwch e-bost atom gyda’r wybodaeth canlynol, os gwelwch yn dda:

Enw
Cyfeiriad
Rhif ffôn
Eich profiad yn y diwydiant
Unrhyw brofiad addysg ffilm sydd gennych
Sut rydych am ddefnyddio addysg ffilm gyda phlant neu pobl ifanc yn y dyfodol
Os ydych eisiau gofyn am fwrsari teithio, gadewch i ni wybod faint fyddai’ch costau teithio.

Os ydy’ch cais yn cael ei dderbyn, byddwn i’n gofyn i chi dalu blaendal o £10 fydd yn cael ei dychwelyd ar ôl i chi gwblhau’r cwrs.

Hawlfraint © 2010 Media Education Wales. Icons gan Wefunction. Dylunio gan Woo Themes