Rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant ar gyfer Cynradd ac Uwchradd, o sylfeini addysg cyfryngau a ffilm i ddysgu Astudio’r Cyfryngau a defnyddio ffilm ar draws y cwricwlwm. Gallwn gynnig hyfforddiant yn Gymraeg neu Saesneg, yn eich ysgol, coleg neu ganolfan athrawon – unrhywle yng Nghymru, y DU o tu hwnt, fel digwyddiadau ar wahân neu fel rhan o’ch project, digwyddiad hyfforddiant neu gynhadledd.
Rydym wedi darparu hyfforddiant mewn digwyddiadau yn cynnwys CP3 Film Education, ‘Sefydliadau Athrawon’ Apple yn Lloegr a’r Alban, a Chynhadledd TGCh Ysgolion Rhyngwladol Ysgol Prydeinig Brwsel.
Dyma enghreifftiau o gyrsiau rydym wedi eu cynnal. Gallwn hefyd dyfeisio hyfforddiant i ymateb eich anghenion penodol, fel cwrs ar wahân neu fel rhan o’ch hyfforddiant chi.
Os ydych yn agos i Gaerdydd, gallwn gynnig sesiynau wedi oriau’r ysgol neu gyda’r nos.
HYFFORDDIANT
Ffilm a Llythrennedd yn yr Ysgol Cynradd
Sut i ddefnyddio delweddau symudol i gefnogi gwaith ar draws y cwricwlwm Cynradd. Ar gael fel sesiwn hanner-diwrnod neu undydd. Mae’r cwrs hanner-dydd yn canolbwyntio ar wylio ffilmiau fel sbardun i llythrennedd, gwrando a siarad. Mae’r cwrs diwrnod-cyfan yn edrych hefyd ar y defnydd o wneud-ffilmiau yn y cwricwlwm Cynradd.
Ffilm a Saesneg CA3/4
Bydd y cwrs hwn yn darparu cyflwyniad i iaith ffilm a sut mae’n plethu gyda genre, cynulleidfa, stori a pherswadio. Bydd yn cynnwys nifer o ffyrdd wedi-eu-profi o ymwneud â ffilmiau a thestunau delwedd-symudol eraill yn yr ystafell ddosbarth Saesneg Uwchradd.
Ffilm a’r Gymraeg
Bydd y cwrs hwn, ar gyfer athrawon Cymraeg, yn cyflwyno iaith a chysyniadau ffilm a golygfeydd allweddol, themâu, cymeriadau a strwythur storïol mewn ffilmiau a astudir ar gyfer Cymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg.
Cadw gwneud-ffilmiau’n syml
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut i drefnu gwneud-ffilmiau yn yr ysgol er mwyn cael y mwya sy’n bosibl o ddysgu a chreadigaeth, wrth osgoi problemau technegol. Byddwn ni’n ystyried cysyniadau allweddol iaith ffilmiau; adnoddau ar gyfer gwneud ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth; cynllunio project gwneud-ffilmiau; offer a sut i’w defnyddio.
Hyfforddiaent meddalwedd
Rydym yn darparu hyfforddiant mewn ystod o feddalwedd yn cynnwys iMovie, Final Cut Express, Garageband ac iPhoto.
CYFRYNGAU A FFILM 2010
Cynhelir ein HMS deuddydd poblogaidd ar gyfer athawon Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm ar 16/17 Medi yn Nhy Dysgu, Nantgarw (i’r Gogledd o Gaerdydd). Rydym wedi cadw prisiau ar lefelau 2008 ac mae gostyngiad am nodi lle yn gynnar.



