Gweithdai enghreifftiol

Rydym yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a cholegau, canolfannau ieuenctid, a gwyliau ffilm a llen. Gelllid addasau y mwyafrif o’n gweithdai ar gyfer oedrannau a grwpia gwahanol.
Dyma enghreifftiau – os nad ydych yn gweld yr hyn rydych eisiau yma, gallwn ddyfeisio gweithdy i ateb eich anghenion penodol.

GWEITHDAI CREADIGOL

Ffilm a barddoniaeth
Mae grwpiau yn gweithio gyda’i gilydd i greu cerddi ffilm. Fe allen nhw ddefnyddio cerdd neu ffilm sy’n bodoli eisoes fel sbardun, ysgrifennu cerdd a’u darlunio gyda fideo, neu ffilmio’n gyntaf a defnyddio eu delweddau i ysbrydoli eu ysgrifennu.
Fel arfer rydym yn gweithio gyda’r awduron neu beirdd ar y gweithdai hyn. Gallwch ddefnyddio gweithdai i archwilio’r ardal leol, ystyried technegau megis trosiad a phersonoli, neu edrych ar destunau penodol. Rydym wedi cynnal y gweithdai hyn gyda phlant (o 10 oed i fynyd) ac oedolion. Gweithgaredd ddelfrydol ar gyfer sgwadiau sgwennu neu fel rhan o wyliad llen neu ffilm.

Golygu parhad
Mae’r gywithdai hanner=dydd hyn yn gyflwyniad delfydiol i iaith ffilmiau, a ffordd gwych i ddysgwyr ystyried y perthynas rhwng camera, sain a golygu cyn iddynt wneud ei ffilmiau eu hun. Rydym ni’n darparu dilyniant heb ei golygu; mae dysgwyr yn gweithio mewn parau neu grwpiau i’w golygu ac i greu trac sain.

Ffilmstart
Mae’r gweithdy hwn yn arwain myfyrwyr trwy broses gwneud-ffilm gyfan mewn diwrnod. Rydym yn dechrau trwy ystyried y defnyddo o iaith ffilm mewn ffilm ‘clasurol’, a chyflwyno sut i gynllunio, saeth a golygu fideo. Mae’r dysgwyr wedyn yn creu ffilm syml sy’n cael ei ddangos ar ddiwedd y dydd.

Ieithoedd Tramor Modern
Gweithdai hanner-diwrnod, undydd neu hirach. Mae myfyrwyr yn gwylio enghreifftiau byr o ffilmiau yn yr iaith darged cyn mynd ymlaen i wneud gweithgareddau gwneud-ffilmiau. Mewn gweithdy hanner-diwrnod, rydym yn darparu ffilmiau i’r myfyrwyr eu golygu mewn grwpiau cyn recordio troslais. Mewn gweithdai hwy, mae’r myfyrwyr yn cynllunio, ffilmio a golygu ffilm fer gyfan eu hun. Gall y rhai fod yn ffilmiau ffeithiol (ee ffilm teithio, eitem newyddion), dilyniannau drama gyda deialog neu droslais, neu ffilmiau ‘montage’ creadigol.

Ffilm a cherddoriaeth
Rydym yn cynnig dau weithdai hanner-diwrnod, sy’n gallu cael i eu cysylltu i greu gweithgaredd diwrnod.

Creu sgor
Rydym yn ystyried sut mae cerddoriaeth a synau diegetig (‘naturiol’) yn cael eu defnyddio mewn ffilm i greu awyrgylch ac i ddatblygu tensiwn. Rydym yn darparu dilyniant tensiwn, ac mae aelodau’r cwrs yn gweithio mewn grwpiau i gynllunio a creu sgor wrth ddefnyddio meddalwedd gwneud-cerddoriaeth Garageband.

Montage
Rydym yn ystyried y defnydd o montage a’r perthynas rhwng delwedd a sain mewn ffilmiau Sofietaidd y 1920au a dilyniannau teitl a ffilmiau diweddaraf. Mae’re grwpiau yn ffilmio delweddau, creu darn o gerddoriaeth, a golygu’r delweddau i ffitio cyflymdra’r cerddoriaeth.

GWEITHDAI BEIRNIADOL
Gallwn ddarparu ystod o weithdai yn eich sinem (neu ysgol) sy’n ystyried agweddau penodol ffilm. Gallwn ddyfeisio gweithdai i ateb eich anghenion neu gynnig gweithdai ar cysyniadau penodol.

Cyflwyniad i ffilm
Sut ydym ni’n deall yr hyn sy’n digwydd mewn ffilm? Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio ystod o enghreifftiau o hysbysebion, dilyniannau teitl, a ffilmiau clasurol a modern i ystyried y cysylltau rhwng stori, lleoliad, gwisgoedd, camera, sain a golygu. Gweithdy 1-2 awr, y gellir ei addasu ar gyfer 8 oed i oedolion trwy ddefnyddio enghreifftiau ffilm gwahanol.

Delwedd a sain
Mae’r gweithdy hyn (a ddarparwyd fel rhan o wyl Soundtrack llynedd) yn defnyddio ffilm o ystod eang o gyfnodau, gwledydd a genres i ystyried sut mae cerddoriaeth a sain ddiegetig yn cyfrannu at ystyr mewn ffilmiau. Yn ddelfrydol ar gyfer Astudio’r Cyfryngau TGAU a UA, a Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Cynhyrchu’r Cyfryngau.

Hawlfraint © 2010 Media Education Wales. Icons gan Wefunction. Dylunio gan Woo Themes